Jean Améry

Ysgrifwr a nofelydd Awstriaidd yn yr iaith Almaeneg oedd Jean Améry (Hanns Chaim Mayer; 31 Hydref 191217 Hydref 1978) a wnâi dynnu ar ei brofiadau o'r Holocost yn ei waith.

Ganed Hanns Chaim Mayer yn Fienna, Awstria-Hwngari, yn fab i dad Iddewig a mam Gatholig. Yn sgil marwolaeth ei dad yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd ei fagu'n Gatholig. Astudiodd athroniaeth yn Fienna. Yn sgil yr Anschluss ym 1938, ffoes i Ffrainc, ac yna i Wlad Belg. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n aelod o'r gwrthsafiad yn erbyn yr Almaenwyr yng Ngwlad Belg, a chafodd ei garcharu mewn gwersylloedd crynhoi yn Gurs, yn ne-orllewin Ffrainc, ac Auschwitz yng Ngwlad Pwyl. Ar ddiwedd y rhyfel, wrth i'r lluoedd Sofietaidd agosáu, cafodd ei symud i wersylloedd Buchenwald a Bergen-Belsen.

Wedi'r rhyfel, gweithiodd yn newyddiadurwr. Daeth i'r amlwg pan ddechreuodd ysgrifennu am ei brofiad yn yr Holocost yng nghanol y 1960au. Darllenodd ei ysgrifau ar y radio, ac ym 1964 cychwynnodd ar sawl taith ddarlithio trwy'r Almaen ym 1964. Mabwysiadodd y ffugenw Ffrangeg Jean, cyfeiriad at Jean-Paul Sartre, ac Améry, anagram o'i gyfenw Mayer. Bu farw yn 65 oed trwy hunanladdiad, o orddos o gyffuriau tawelu, mewn gwesty yn Salzburg.

Derbyniodd wobr lenyddol oddi ar Academi Celfyddydau Cain Bafaria ym 1972, a gwobrau Fienna a Lessing ym 1977. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Améry, Jean', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Améry, Jean
    Cyhoeddwyd 1971
    Rhif Galw: Series 4221(13
    Llyfr
  2. 2
    gan Améry, Jean
    Cyhoeddwyd 1960
    Rhif Galw: Series 6260(321
    Llyfr
  3. 3
    Cyhoeddwyd 1989
    Awduron Eraill: “...Améry, Jean...”
    Rhif Galw: Period. 2885(05
    Llyfr
  4. 4
    Cyhoeddwyd 1968
    Awduron Eraill: “...Améry, Jean...”
    Rhif Galw: 8 Philos. 1100
    Llyfr