Karl Barth

Diwinydd Protestannaidd o'r Swistir oedd Karl Barth (10 Mai 188610 Rhagfyr 1968).

Ganed ef yn Basel, yng ngogledd-orllewin y Swistir, yn fab i'r Athro Fritz Barth a fu'n darlithio ar bynciau'r Testament Newydd a'r Eglwys Fore ym Mhrifysgol Bern, ac Anna Sartorius. Astudiodd ym mhrifysgolion Bern, Berlin, Tübingen, a Marburg. Mynychodd seminarau'r hanesydd eglwysig Adolf von Harnack ym Merlin, ac ym Marburg daeth dan ddylanwad y diwinydd rhyddfrydol Wilhelm Herrmann. Cafodd Barth ddiddordeb mawr yn syniadau Friedrich Schleiermacher, un o brif ysgolheigion Beiblaidd ac athronwyr Cristnogol y 19g, a thynnwyd ei sylw hefyd gan berthnasedd y dull gwyddonol. Gwasanaethodd yn giwrad yng Ngenefa o 1909 i 1911, ac wedi hynny fe'i penodwyd yn weinidog i blwyf Safenwil, yng nghanton Aargau. Treuliodd ddeng mlynedd yn Safenwil, yn datblygu ei ddiwinyddiaeth ac yn dal at ei astudiaethau Beiblaidd. Priododd Karl Barth â'r feiolinydd Nelly Hoffman ym 1913, a chawsant un ferch a phedwar mab.

Cyhoeddodd ''Der Römerbrief'', ei gyfrol bwysig ar Lythyr Paul at y Rhufeiniaid, ym 1919, gan ennill enw o'r cychwyn am ei ddiwinyddiaeth ddilechdidol. Ar sail y llyfr hwnnw, penodwyd Barth yn athro diwinyddiaeth Ddiwygiedig ym Mhrifysgol Göttingen ym 1921, ac yno cychwynnodd ar ei astudiaeth drylwyr o ddiwinyddion Protestannaidd yr oes ysgolaidd a Thadau'r Eglwys er mwyn llunio'i ddarlithoedd. Derbyniodd gadeiriau athrawol ym Münster ym 1925 ac yn Bonn ym 1930, ac yn y ddwy brifysgol honno traddodai ei gyfres o ddarlithoedd am ddiwinyddiaeth Brotestannaidd y 19g, a fyddai'n cael eu cyhoeddi yn y gyfrol ''Die protestantische Theologie im 19. Jahrhundert'' ym 1947. Ym Münster hefyd ysgrifennodd ei ymdrech gyntaf ym maes dogmateg, ''Die Lehre vom Worte Gottes; Prolegomena zur christlichen Dogmatik'' (1927). Ei gampwaith, mae'n debyg, yw ''Kirchlche Dogmatik'', a gyhoeddwyd mewn sawl cyfrol o 1932 i 1967.

Yn ei waith ''Nein! Antwort an Emil Brunner'' (1934), ymateb i Emil Brunner, honnai Barth bod syncretiaeth grefyddol a gwrth-Semitiaeth y Natsïaid yn wyrdroad oddi ar lwybr hanesyddol y Gristionogaeth. Cafodd Barth ran yn sefydlu'r Eglwys Gyffes yn yr Almaen Natsïaidd, a lluniodd drafft cyntaf Datganiad Barmen ym 1934. Fe'i diswyddwyd o'i gadair ym Mhrifysgol Bonn ym 1935 am iddo wrthod tyngu'r llw teyrngarwch i Adolf Hitler. Cynigwyd iddo swydd athro diwinyddiaeth yn Basel, a dychwelodd felly i'w ddinas enedigol. Hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, byddai Barth yn pleidio achos yr Eglwys Gyffes ac yn siarad yn erbyn erledigaeth yr Iddewon.

Wedi'r rhyfel, gwahoddwyd Barth yn ôl i Bonn, yng Ngorllewin yr Almaen. Cyfrannai at nifer o ddadleuon diwinyddol y cyfnod hwn, gan gynnwys yr anghydfodau ynghylch bedydd, hermeniwteg, a dadfytholegu. Anerchodd gynhadledd gyntaf Cyngor Eglwysi'r Byd yn Amsterdam ym 1948, ac ymwelodd â Rhufain yng nghanol y 1960au yn sgil Ail Gyngor y Fatican. Cesglir ei bregethau i garcharorion Basel yn y gyfrol ''Den Gefangenen Befreiung; Predigten aus den Jahren 1954–59'' (1959). Bu farw Karl Barth yn Basel yn 82 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 39 ar gyfer chwilio 'Barth, Karl', amser ymholiad: 0.05e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1948
    Rhif Galw: Series 6100(14
    Llyfr
  2. 2
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1999
    Rhif Galw: 8 Biblica 1611
    Llyfr
  3. 3
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 2006
    Rhif Galw: 8 Philos. 1724
    Llyfr
  4. 4
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1993
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339(5
    Llyfr
  5. 5
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1967
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339(4,4
    Llyfr
  6. 6
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1959
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339(4,32
    Llyfr
  7. 7
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1959
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339(4,31
    Llyfr
  8. 8
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1955
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339(4,2
    Llyfr
  9. 9
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1953
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339(4,1
    Llyfr
  10. 10
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1951
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339(3,4
    Llyfr
  11. 11
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1950
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339(3,3
    Llyfr
  12. 12
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1948
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339(3,2
    Llyfr
  13. 13
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1947
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339(3,1
    Llyfr
  14. 14
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1948
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339(2,2
    Llyfr
  15. 15
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1948
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339(2,1
    Llyfr
  16. 16
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1948
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339(1,2
    Llyfr
  17. 17
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1952
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339(1,1
    Llyfr
  18. 18
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1961
    Rhif Galw: 8 Dogm. 0339
    Llyfr
  19. 19
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1967
    Rhif Galw: Series 7240(0002
    Llyfr
  20. 20
    gan Barth, Karl
    Cyhoeddwyd 1964
    Rhif Galw: 8 Th.univ. 0935
    Llyfr