Albert Camus
Llenor yn yr iaith Ffrangeg ac athronydd oedd Albert Camus (7 Tachwedd 1913 - 4 Ionawr 1960), a anwyd yn Mondovi (heddiw: Dréan) yn Algeria. Ystyrir Camus ymhlith awduron mwyaf blaenllaw a dylanwadol y 20g.Fel Jean-Paul Sartre a Simone de Beauvoir, arddelai Camus athroniaeth dirfodaeth (Existentialism). Enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1957.
Dyn papur newydd a chynhyrchydd dramâu oedd wrth ei alwedigaeth; fe gyhoeddodd gyfrolau o ysgrifau ar athroniaeth a gwleidyddiaeth ac ysgrifennodd ddramâu, ond fel athronydd ac, yn enwedig, fel nofelydd y daeth i fri ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Defnyddiodd y nofel fel cyfrwng i fynegi ei syniadau am fywyd a chyflwr y ddynoliaeth. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12