Frederick Forsyth
Awdur a newyddiadurwr o Loegr oedd Frederick Forsyth (25 Awst 1938 – 9 Mehefin 2025), a aned yn Ashford, Caint.Ymunodd Forsyth a'r RAF yn 18 mlwydd oed cyn dod yn ohebydd rhyfel i'r BBC a Reuters. Datgelodd yn 2015 ei fod wedi gweithio i'r gwasanaeth cyfrin Prydeinig MI6 am dros 20 mlynedd.
Roedd yn adnabyddus am ei nofelau iasoer am wleidyddiaeth y dydd, yn arbennig ''The Day of the Jackal'' (1971) (am gynllwyn i lofruddio Charles de Gaulle), ''The Odessa File'' (1972) a ''The Dogs of War'' (1974).
Cyhoeddodd mwy na 25 llyfr a gwerthodd dros 75 miliwn o lyfrau o gwmpas y byd. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2