Seamus Heaney

Bardd Gwyddelig yn ysgrifennu yn Saesneg oedd Seamus Justin Heaney (13 Ebrill 193930 Awst 2013).

Ganed Heaney ger Castledawson yng Ngogledd Iwerddon, yr hynaf o naw o blant. Addysgwyd ef yng Ngholeg St Columb, lle dysgodd Wyddeleg, yna mewn ysgol breswyl Gatholig yn Derry. Yn 1957 aeth i Brifysgol Queens, Belffast i astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, cyn hyfforddi fel athro. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, ''Eleven Poems'', ym 1965. Ym 1976 symudodd i Ddulyn i ddysgu yng Ngholeg Carysfort.

Ym 1995 dyfarnwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo.

Ar ei farwolaeth yn 2013, roedd gwerthiant ei lyfrau'n ddau-draean o gyfanswm llyfrau beirdd cyfoes gwledydd Prydain. Mae ei waith yn ymwneud ag Iwerddon, yn enwedig Gogledd Iwerddon, ble'i ganwyd. Pan soniodd am ei blentyndod un tro, dywedodd: ''"I learned that my local County Derry experience, which I had considered archaic and irrelevant to 'the modern world' was to be trusted. They taught me that trust and helped me to articulate it."'' Mae ei ddwy gyfrol ''Death of a Naturalist'' (1966) a ''Door into the Dark'' (1969) yn ddisgrifiadau o fywyd pob dydd ei filltir sgwar. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Heaney, Seamus', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Heaney, Seamus
    Cyhoeddwyd 1996
    Rhif Galw: B.Man. T 1000(090
    Llyfr
  2. 2
    gan Thomson, David
    Cyhoeddwyd 2005
    Awduron Eraill: “...Heaney, Seamus...”
    Rhif Galw: 8 A.angl. T 0950
    Llyfr