Sven Hedin
Anturiaethwr a llenor o Sweden oedd Sven Anders Hedin (19 Chwefror 1865 – 26 Tachwedd 1952), ganwyd a bu farw yn Stockholm, Sweden. Teithiodd yn eang yng Nghanolbarth Asia ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g ac ysgrifennodd nifer o lyfrau taith ac erthyglau. Roedd ganddo syniadau rhamantaidd am orffenol y Sgandinafiaid sy'n ymylu ar Aryaniaeth, ond serch hynny mae ei gyfrolau'n ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes, iaith a thraddodiadau Canolbarth Asia. Darparwyd gan Wikipedia-
1
-
2
-
3