James Joyce
Nofelydd a bardd o Iwerddon oedd James Augustine Aloysius Joyce (2 Chwefror 1882 – 13 Ionawr 1941). Fe'i hystyrir yn un o'r llenorion mwyaf dylanwadol ar ysgrifenwyr ''avant-garde'' modern dechrau'r 20g. Ei waith mwyaf enwog yw Ulysses (1922). Gwaith arall enwog yw'r casgliad o storïau byrion ''Dubliners'' (1914) a'r nofelau ''A Portrait of the Artist as a Young Man'' (1916) a ''Finnegans Wake'' (1939).Fe'i ganwyd i deulu dosbarth canol yn Nulyn. Aeth i Goleg Prifysgol Dulyn ac yna ymfudodd i'r cyfandir gan fyw yn Trieste, Paris a Zürich. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8