Marie Luise Kaschnitz

| dateformat = dmy}}

Awdures o'r Almaen oedd Marie Luise Kaschnitz (31 Ionawr 1901 - 10 Hydref 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, awdur straeon byrion a bardd. Caiff ei hystyried fel un o'r prif feirdd yn y cyfnod a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd.

Ganed Marie Luise von Holzing-Berslett yn ninas Karlsruhe, yn nhalaith Baden-Württemberg, yr Almaen ar 31 Ionawr 1901; bu farw yn Rhufain. Priododd â'r archeolegydd a'r awdur Guido Freiherr Von Kaschnitz-Weinberg yn 1925, a theithiodd gydag ef ar deithiau archeolegol.

Cafodd ganmoliaeth uchel am ei straeon byrion, a ysbrydolwyd gan ddigwyddiadau yn ystod ei bywyd. Casglwyd y straeon hyn mewn llyfrau fel ''Orte and Engelsbrücke''. Ymgorfforodd lawer o'r llefydd a welodd ar ei theithiau yn ei gwaith llenyddol. Mae ei storiau'n feddylgar o ran natur, yn hytrach nag yn llawn digwyddiadau, yn delio â chamau penodol bywyd neu berthynas menyw. Ei phrif gasgliad yw ''Lange Schatten'' (Cysgodion Hirion). Ei hoff stori ganddi oedd ''Das dicke Kind'' ('Y Plentyn Tew) yn 1961.

Y casgliad o draethodau ''Menschen und Dinge'' (1945) oedd y garreg filltir cyntaf iddi, a dyma'r gwaith o gyhoeddodd i ddarllenwyr Almaeneg fod yma lenor arbennig. Ymdriniodd ei cherddi â'r rhyfel a'r cyfnod ar ôl y rhyfel, gan fynegi'r dyhead am heddwch y gorffennol, ond hefyd yn gobeithio am y dyfodol. Roedd y gyfrol ''Dein Schweigen - meine Stimme'' (Eich tawelwch - fy llais i) yn delio â marwolaeth ei gŵr. Ar ôl 1960 cafodd ei ddylanwadu gan Pablo Neruda.

Am gyfnod byr, dysgodd wleiyddiaeth ym Mhrifysgol Frankfurt. Roedd yn aelod o PEN ac enillodd nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Georg Büchner yn 1955 a Gwobr Roswitha ym 1973. Cafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Nobel mewn Llenyddiaeth yn 1967. Bu farw yn 73 oed yn Rhufain. Sefydlwyd 'Gwobr Marie Luise Kaschnitz' yn ei henw, i gofio amdani. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 20 ar gyfer chwilio 'Kaschnitz, Marie Luise', amser ymholiad: 0.16e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: 8 A.germ. K 0642(7
    Llyfr
  2. 2
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1987
    Rhif Galw: 8 A.germ. K 0642(6
    Llyfr
  3. 3
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1985
    Rhif Galw: 8 A.germ. K 0642(5
    Llyfr
  4. 4
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1983
    Rhif Galw: 8 A.germ. K 0642(4
    Llyfr
  5. 5
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1982
    Rhif Galw: 8 A.germ. K 0642(3
    Llyfr
  6. 6
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1981
    Rhif Galw: 8 A.germ. K 0642(2
    Llyfr
  7. 7
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1981
    Rhif Galw: 8 A.germ. K 0642(1
    Llyfr
  8. 8
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1985
    Rhif Galw: 8 A.germ. K 0642
    Llyfr
  9. 9
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1972
    Rhif Galw: Series 7112(0057
    Llyfr
  10. 10
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1977
    Rhif Galw: Series 5570(01079
    Llyfr
  11. 11
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1980
    Rhif Galw: Series 7110(0436
    Llyfr
  12. 12
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1977
    Rhif Galw: Series 7112(0425
    Llyfr
  13. 13
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1977
    Rhif Galw: Series 7112(0387
    Llyfr
  14. 14
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1971
    Rhif Galw: Series 5700(01180
    Llyfr
  15. 15
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1975
    Rhif Galw: Series 5570(01107
    Llyfr
  16. 16
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1969
    Rhif Galw: Series 5570(00620
    Llyfr
  17. 17
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1996
    Rhif Galw: Series 7110(1229
    Llyfr
  18. 18
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1963
    Rhif Galw: 8 A.germ. K 0640
    Llyfr
  19. 19
    gan Kaschnitz, Marie Luise
    Cyhoeddwyd 1973
    Rhif Galw: 8 A.germ. K 0641
    Llyfr
  20. 20
    Cyhoeddwyd 1981
    Awduron Eraill: “...Kaschnitz, Marie Luise...”
    Rhif Galw: 8 A.germ. 264(2
    Llyfr