Daniel Kehlmann
Llenor Almaeneg o dras Awstriaidd ac Almaenig yw Daniel Kehlmann (ganwyd 13 Ionawr 1975). Ysgrifennodd y nofel Almaeneg a werthodd orau yn y chwarter ganrif diwethaf ''Die Vermessung der Welt'' (a gyfieithwyd i Saesneg gan Carol Brown Janeway fel ''Measuring the World'', 2006). Mae dylanwad realaeth hudol ar ei waith, rhyddhad o ddylanwad yr hen do o awduron wedi'r rhyfel sef y Grwp 47. Enillodd y gwobrau pwysig isod.* 1998 Förderpreis des Kulturkreises beim Bundesverband der Deutschen Industrie * 2000 Stipendium des Literarisches Colloquiums in Berlin * 2003 Förderpreis des Österreichischen Bundeskanzleramtes * 2005 Candide-Preis, Minden. * 2006 Literaturpreis der Konrad-Adenauer-Stiftung; Heimito-von-Doderer-Preis
Fe anwyd Kehlmann ym München, yn fab i'r cyfarwyddwr teledu Michael Kehlmann. Magwyd e yn Fienna, cartref ei dad..
Dechreuodd cyhoeddu yn 1997 tra yn fyfyriwr gyda'i nofel, ''Beerholms Vorstellung'', Mae'n cyfrannu i bapurau cenedlaethol yr Almaen ''Süddeutsche Zeitung'', ''Frankfurter Rundschau'', ''Frankfurter Allgemeine Zeitung'', a ''Literaturen''.
O 2001 roedd Kehlmann yn ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Johannes Gutenberg ym Mainz ac ym mhrifysgolion Wiesbaden, a Göttingen. Fe dderbyniodd ef i'r Mainzer Akademie der Wissenschaften und der Literatur. Eironi y peth oedd iddo fethu cwblhau ei PhD am fod e mor boblogaidd fel awdur. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4gan Hebel, Johann PeterAwduron Eraill: “...Kehlmann, Daniel...”
Cyhoeddwyd 2008
Rhif Galw: 8 A.germ. H 1433Llyfr