Tilman Riemenschneider
Cerflunydd a cherfiwr coed o'r Almaen oedd Tilman Riemenschneider (tua 1460 – 7 Gorffennaf 1531) sydd yn nodedig am ei gerfluniau pisgwydd o olygfeydd Beiblaidd a bucheddau'r saint. Bu hefyd yn arfer ei grefft drwy gyfrwng marmor, calchfaen, ac alabastr.Ganed yn Heiligenstadt yn rhanbarth Thwringia, a oedd ar y pryd dan reolaeth y Marchogion Tiwtonaidd ac yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Roedd ei dad yn feistr ar y bathdy yn Würzburg yn rhanbarth Ffranconia. Ymsefydlodd Tilman yn Würzburg erbyn 1479 ac yno sefydlodd gweithdy mawr ar gyfer cerfluniaeth garreg a phren ym 1483.
Bu'n weithgar ym mywyd dinesig Würzburg, a gwasanaethodd yn gynghorwr o 1504 i 1520 ac yn fwrgfeistr o 1520 i 1525. Rhodd ei gefnogaeth i'r chwyldroadwyr yn ystod Rhyfel y Gwerinwyr (1524–25) ac am y rheswm honno fe'i carcharwyd am dro, a chollodd ei ddyletswyddau gwleidyddol a'i nawddogaeth am gyfnod.
Ymhlith ei weithiau mae allor bren y Forwyn Fair (c. 1505–10) yn Eglwys Herrgotts, Creglingen; maen-ffurfiau Adda ac Efa yn y Marienkapelle, Würzburg; Allor y Gwaed Sanctaidd (1501–05) yn Eglwys St Jakob, Rothenburg; a Beddrod yr Ymerawdwr Harri II a'r Ymerodres Cunigunde (1499–1513) yn Eglwys Gadeiriol Bamberg.
Bu farw Tilman Riemenschneider yn Würzburg, tua 71 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1Cyhoeddwyd 2009Awduron Eraill: “...Riemenschneider, Tilman...”
Rhif Galw: 4 Artes 1705Llyfr -
2gan Landvogt, HugolinAwduron Eraill: “...Riemenschneider, Tilman...”
Cyhoeddwyd 1970
Rhif Galw: Series 6110(0949Llyfr -
3gan Schneider, WolfgangAwduron Eraill: “...Riemenschneider, Tilman...”
Cyhoeddwyd 2010
Rhif Galw: Series 6110(0949aLlyfr -
4gan Scheffler, KarlAwduron Eraill: “...Riemenschneider, Tilman...”
Cyhoeddwyd 1954
Rhif Galw: 8 Artes 0052(22Llyfr -
5gan Scheffler, KarlAwduron Eraill: “...Riemenschneider, Tilman...”
Cyhoeddwyd 1948
Rhif Galw: 8 Artes 0052(09Llyfr -
6Cyhoeddwyd 1939Awduron Eraill: “...Riemenschneider, Tilman...”
Rhif Galw: Series 6060(0545Llyfr -
7gan Freeden, Max H. vonAwduron Eraill: “...Riemenschneider, Tilman...”
Cyhoeddwyd 1965
Rhif Galw: 4 Artes 0009(02Llyfr -
8Cyhoeddwyd 2000Awduron Eraill: “...Riemenschneider, Tilman...”
Rhif Galw: 4 Artes 1643Llyfr -
9Cyhoeddwyd 2004Awduron Eraill: “...Riemenschneider, Tilman...”
Rhif Galw: 4 Artes 1705(2Llyfr -
10Cyhoeddwyd 2004Awduron Eraill: “...Riemenschneider, Tilman...”
Rhif Galw: 4 Artes 1705(1Llyfr -
11Cyhoeddwyd 1984Awduron Eraill: “...Riemenschneider, Tilman...”
Rhif Galw: 4 Artes 0010(67Llyfr