Jakob Böhme

Athronydd, cyfrinydd Cristnogol a diwinydd Protestannaidd o'r Almaen oedd Jakob Böhme (24 Ebrill 157517 Tachwedd 1624). Mae ei waith ''Mysterium Magnum'' (1623) yn cyfuno cyfriniaeth natur y Dadeni ag athrawiaeth Feiblaidd, a'i draethawd ''Von der Gnadenwahl'' (1623) yn ymdrin â rhyddid yng nghyd-destun Calfiniaeth. Cafodd ddylanwad pwysig ar fudiadau diweddarach yn yr Almaen gan gynnwys Delfrydiaeth a Rhamantiaeth.

Ganed ef yn Alt Seidenberg (bellach Stary Zawidów, Gwlad Pwyl), ger Görlitz, Bohemia, yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cafodd ei fagu yng nghyfnod diweddar y Diwygiad Protestannaidd, ac yn niwedd ei arddegau aeth i Görlitz ym mha le'r oedd dadleuon ffyrnig rhwng yr amryw sectau a ffynnai yn y dref honno: cudd-Galfiniaid, Ailfedyddwyr, y Schwenckfeldiaid, meddygon Paracelsiaidd, a dyneiddwyr, yn ogystal â Lwtheriaid uniongred. Crydd ydoedd o ran ei alwedigaeth, a chan ei fod o duedd fyfyrgar, ymroddodd yn ei oriau hamddenol i astudio diwinyddiaeth, anianaeth, a sêr-ddewiniaeth. Mae'n debyg i ffydd Böhme gael ei deffro dan ddylanwad Martin Möller, y gweinidog Lwtheraidd yn Görlitz, mewn un o'i gêl-gyfarfodydd crefyddol ym 1600. Yn ôl yr hen chwedl ysbrydol, honnai i Böhme gael ei amgylchu fwy nag unwaith gan oleuni dwyfol, ac iddo, yn nerth y goleuni hwnnw, ddarganfod hanfod, rhin, a defnydd-lysiau y maes. Yr oedd Böhme yn ddyn uniawn a difrifol ym mhob peth. Erlidid ef yn dost gan wŷr eglwysig, ond perchid a mawrygid ef gan bawb arall – hyd yn oed gan bendefigion, meddygon, a marsiandwyr. Bu farw Jakob Böhme yn Görlitz yn 49 oed.

Mae dysgeidiaeth Böhme yn gysegredig yn yr ymgais i brofi angenrheidrwydd pethau trwy olrhain eu tarddiad i briodoliaethau Duw. Oherwydd hyn, cyhuddir ef gan ddarllenwyr arwynebol, a rhagfarnllyd, o goleddu athrawiaeth y Manicheaid. Ond olrhain y gyfatebiaeth y mae sydd rhwng y byd gweledig ac anianol a'r byd anweledig ac uwch-anianol. Er gwaethaf llawer o syniadau gwylltion a gynhwysant, y mae yn ei lyfrau wirioneddau mor ddyfnion, a meddyliau mor odidog, fel y maent wedi derbyn cymeradwyaeth y meddylwyr mwyaf. Ysgrifennodd Böhme tua 30 o lyfrau, gan gynnwys ei gyfrol gyntaf, ''Aurora'' ("Y Gwawrddydd", 1612).

Rhennir awduriaeth Böhme yn dri chyfnod, yn cyfateb i ddosbarthiad triphlyg ei weithiau:—(1.) Athroniaeth; sef ymgais i ddyfod o hyd i Dduw fel y mae ynddo ei hun. Gwneir hyn yn ei ''Aurora''. (2.) Bydhaniad; yr amlygiad o'r dwyfol yn y creadur. (3.) Diwinyddiaeth; yr amlygiad o Dduw yn enaid dyn. Y mae ei ddylanwad fel awdur yn gyfyngedig i ddysgedigion. Un o'i brif feddyliau ydyw, mai Duw ydyw gwaelod pob peth, a'i fod yn gorwedd o dan y cyfan. Yr ydym ni, gan hynny, i ddisgyn i lawr at Dduw, ac nid i ymddyrchafu ato. Y mae Duw i'w gael yn y gweithredol, nid yn y drychfeddyliol. Dylem gychwyn gyda Duw, ac nid ceisio cyrraedd ato trwy ymdrech meddyliol.

Yr oedd Böhme yn ddyledus am ymadroddion a drychfeddyliau cynorthwyol i Paracelsus, Valentin Weigel, a Schwenckfeld; ond am y gweddill, nyddodd ei holl gyfundraeth o ddefnyddiau ei feddwl ffrwythlawn ei hun. Ymdaenodd ei syniadau yn brysur, a darllenid ei weithiau yn ddyfal gan wŷr o fath Isaac Newton, Friedrich Schelling, a Georg Hegel. Franz Baader ydyw y mwyaf hynod fel eglurydd ei weithiau. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 5 canlyniadau o 5 ar gyfer chwilio 'Böhme, Jakob', amser ymholiad: 0.07e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Böhme, Jakob
    Cyhoeddwyd 1995
    Rhif Galw: Series 6062(1738
    Llyfr
  2. 2
    gan Böhme, Jakob
    Cyhoeddwyd 1920
    Rhif Galw: 8 Philos. 1371
    Llyfr
  3. 3
    gan Böhme, Jakob
    Cyhoeddwyd 1976
    Rhif Galw: Series 7700(02
    Llyfr
  4. 4
    gan Böhme, Jakob
    Cyhoeddwyd 1937
    Rhif Galw: Series 7200(07378
    Llyfr
  5. 5
    gan Böhme, Jakob
    Cyhoeddwyd 1983
    Rhif Galw: Series 5970(1077
    Llyfr